Datganiad dwyieithog yw hwn. Mae’r fersiwn Saesneg yma.
This is a bilingual media release. The English version can be read here.
MEDIA RELEASE
Embargo tan 00.01, 22 Chwefror 2018
Addasiadau i gartrefi yng Nghymru - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar addasiadau i gartrefi yng Nghymru, mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn.
Yn ôl Mr Ramsay:
"Mae addasiadau i gartrefi yn bwysig wrth helpu pobl hŷn a phobl anabl i gadw eu hannibyniaeth, ond mae adroddiad heddiw yn dangos, oherwydd cymhlethdod y system gyflenwi gyfredol, bod pobl yn cael safonau gwasanaeth gwahanol iawn oherwydd lle maent yn byw, ac nid yr hyn sydd ei angen arnynt.
"Mae canfyddiadau'r adroddiad yn amlygu ystod o wendidau ac yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a'u partneriaid wella sut y maent yn darparu gwasanaethau i rai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
"Mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd nawr i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth a bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
"Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad heddiw yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i fynd i'r afael â'r gwendidau hirsefydlog a nodir yn adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol ac i ddilyn ymlaen o waith diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gymdeithasau tai."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, tynnu lluniau neu ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.
Cymraeg
Saesneg